Mynd i'r cynnwys

Codi ymwybyddiaeth
diogelu cymunedau

Gwylio Pwma
Gogledd Cymru

Helpwch ni drwy roi gwybod am unrhyw achosion o weld cathod mawr – ond peidiwch byth â mynd yn agos at un na pheryglu’ch hun

Yr achosion mwyaf diweddar

PRYD?

Pan waharddwyd pobl rhag cadw cathod mawr fel anifeiliaid anwes yn yr 1970au, roedd hi’n gyfreithlon eu rhyddhau i gefn gwlad er mwyn osgoi costau ailgartrefu drud.

SUT? PAM?

Byddai perchnogion o bob rhan o’r DU yn teithio i Gymru i ryddhau eu cathod mewn ardaloedd anghysbell, lle mae poblogaethau bach ond sylweddol wedi ffynnu byth ers hynny.

BLE?

Mae cathod mawr fel pwmaod yn cadw’u hunain at eu hunain ac yn hela dros ddwsinau o filltiroedd. Fe’u gwelir yn bennaf yn ardal yr Eryri a bryniau Clwyd, ond maen nhw hefyd yn gallu cyrraedd cyn belled allan â Phrestatyn!

Achosion y rhoddwyd sylw iddyn nhw

All cannoedd a achosion bob blwyddyn ddim bod yn anghywir

Mae astudiaeth gan y BBC wedi casglu mwy na 100 o achosion mewn 18 mis ledled gogledd a chanolbarth Cymru

Cofnododd astudiaeth arall 123 o achosion yng Nghymru dros gyfnod a ddwy flynedd.


PAM NAD OES ‘PRAWF’?

Hyd yn oed mewn gwledydd lle mae pwmaod yn anifeiliaid brodorol, anaml iawn maen nhw’n cael eu gweld. Maen nhw’n anifeiliaid sy’n cadw’u hunain at eu hunain ac mae pob un yn meddiannu tiriogaeth o hyd at 240 cilomedr sgwâr ac yn osgoi unrhyw weithgarwch dynol. Gyda hyn mewn golwg, mae’n syndod bod yna gymaint o achosion wedi cael eu hadrodd ledled y DU, ac mae’n rhoi darlun clir o boblogaeth ffyniannus, sefydledig.


PAM NAD OES MWY O LUNIAU?

Mae yna rai, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn dweud mai’r hyn sydd flaenaf yn eu meddyliau yw eu diogelwch, ac nid i dynnu llun. Bydd y rhan fwyaf o gathod mawr yn cuddio rhag pobl sy’n agosáu, ac wrth i’r rhan fwyaf o achosion ddigwydd yn y nos neu’r cyfnos, neu o gryn bellter, mae’n anodd cael llun clir â chamera ffôn clyfar.

Rydyn ni weithiau’n cael llun neu fideo ac yn eu gwerthfawrogi’n fawr, ond peidiwch â pheryglu’ch hun er mwyn tynnu llun.